{"product_id":"9780140284768","title":"Hanes Cymru (A History of Wales in Welsh)","description":"\u003cp\u003eYn ymestyn o'r Oesoedd Iâ hyd y dwthwn hwn, mae'r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o'r byd y daethpwyd i'w hadnabod fel Cymru. Dyma'r llyfr sy'n egluro pam, 'er gwaethaf pawb a phopeth, 'rydym yma o hyd'.Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau'r glowyr a'r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae'r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.\u003c\/p\u003e","brand":"John Davies","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52712537882942,"sku":"9780140284768","price":0.0,"currency_code":"ZAR","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0784\/4357\/7662\/files\/9780140284768.jpg?v=1765290056","url":"https:\/\/exclusivebooks.co.za\/products\/9780140284768","provider":"Exclusive Books Online","version":"1.0","type":"link"}