One of Wales' most popular and respected composers, Brian Hughes, shares his memories. Over 50 photographs.
Format: Paperback / softback
CONTRIBUTORS: Brian Hughes
EAN: 9781912173297
COUNTRY: United Kingdom
PAGES:
WEIGHT: 0 g
HEIGHT: 212 cm
PUBLISHED BY: Gwasg y Bwthyn Cyf
DATE PUBLISHED: 2019-11-26
CITY:
GENRE: BIOGRAPHY & AUTOBIOGRAPHY / General
WIDTH: 151 cm
SPINE:
Book Themes:
Autobiography: general
Mae teitl y gyfrol ddifyr hon, a’i adlais o gân enwog Ceiriog, ‘Nant y Mynydd’, yn mynd â ni yn syth i ganol byd un o gerddorion disgleiriaf a mwyaf dylanwadol Cymru. Dathlodd ei 80 yn 2018, ac felly mae’n dal ymhell o’i gant; ond mae’r egni aruthrol a ddarlunnir yn hanes ei fywyd yn awgrymu ei fod yn hwylio’n gryf am ddogn dda o flynyddoedd eto. Mae’n adnabyddus fel cyfeilydd a chyfansoddwr ac yn enwedig am ei waith fel arweinydd a hyfforddwr llais. Yr hyn sy’n drawiadol yn ei hanes yw nid yn unig faint y mae wedi ei gyflawni, ond ystod eang ei waith. Cyflwynir y cyfan mewn ffordd ddiddorol a chyda digon o hiwmor.
Mae’n olrhain ei gefndir yn un o froydd mwyaf cerddorol Cymru, sef ardal Rhosllannerchrugog a’r Poncie ac mae’n cydnabod ei ddyled i draddodiad cerddorol eithriadol y fro honno, ac i rai unigolion yn arbennig: Lottie Williams Parry, John Powell Edwards a George Walklett. Cafodd gyfle i hogi ei sgiliau yn fachgen ysgol trwy gyfeilio i gantorion profiadol mewn eisteddfodau a chyngherddau ac ennill parch mawr iddo’i hun am ei waith. Aeth yn ei flaen i astudio am radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n cydnabod ei ddyled fawr i’w athrawon mewn ysgol a choleg.
Fel athro cerdd yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug o 1961 ymlaen, sefydlodd nifer o gorau a fu’n eithriadol lwyddiannus mewn eisteddfodau ac ar lwyfan cyngerdd: Côr Ysgol Alun, Côr Merched y Rhos, a Chantorion Cynwrig, yr olaf yn gôr blaengar tu hwnt, a berfformiodd nifer o weithiau newydd a darlledu’n gyson rhwng 1961 ac 1981. Diogelwyd seiniau’r corau hyn ar recordiadau, a diolch am hynny.
Wedi gadael Ysgol Alun ymunodd Brian Hughes â staff Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion lle bu’n gyfrifol am hyfforddi cantorion ac arwain operâu am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Ceir ganddo ddisgrifiadau byw o’i brofiadau yn y maes, gan gynnwys ei ymwneud â Gŵyl Opera Buxton, ei waith yn rhai o wyliau’r cyfandir, a’r profiad o lwyfannu ei operâu ei hun. Sonnir am gantorion ac am rai o’i gydweithwyr, a rhennir atgofion amrywiol a gonest amdanynt. Mae’r awdur hefyd yn agored iawn a chyda gonestrwydd braf am ei wendidau ei hun, yn benodol ei ddiffygion ymarferol a’i anghofrwydd, sy’n rhoi gwedd ddynol iawn ar ei gyflwyniad.
Magodd ef a’i wraig Cerys ddau blentyn cerddorol a gafodd lwyddiant eisteddfodol eithriadol. Ceir hefyd sylwadau craff ganddo ar broblemau beirniadu, gan gynnwys anaddasrwydd rhai darnau prawf a osodir mewn cystadlaethau amatur.
Dyma olwg ar ŵr dawnus anghyffredin sydd wedi cyfrannu’n helaeth iawn i gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt, a bydd y gwaith o ddiddordeb i’r llaweroedd sy’n ei adnabod ac i bawb sy’n ymddiddori ym myd cerdd. Da yw inni gael ein hatgoffa o helaethrwydd gwaith a chyfraniad Brian Hughes: hwylied ymlaen at y cant!