Lust is the theme of this volume of short stories for adults only. Authors: Bethan Gwanas, Sonia Edwards, Rhys Iorwerth, Sian Melangell Dafydd, Jon Gower, Aled Islwyn, Heiddwen Tomos, Izzy Rabey, Ifana Savill, Tony Bianchi.
Format: Paperback / softback
CONTRIBUTORS: Various
EAN: 9781912173181
COUNTRY: United Kingdom
PAGES:
WEIGHT: 0 g
HEIGHT: 131 cm
PUBLISHED BY: Gwasg y Bwthyn Cyf
DATE PUBLISHED: 2019-10-01
CITY:
GENRE: FICTION / Short Stories (single author)
WIDTH: 202 cm
SPINE:
Book Themes:
Short stories
Dydi llenyddiaeth Gymraeg ddim wastad y peth mwyaf secsi (gyda rhai eithriadau, wrth gwrs), a dwi’n aml yn cael fy hun yn gresynu nad oes mwy o erotica Cymraeg. Ac felly pan ddaeth Chwant gan Wasg y Bwthyn drwy’r post, gyda’i rybudd coch ‘Straeon ar gyfer oedolion yn unig’ ar y clawr, ro’n i’n edrych ymlaen at gael darllen cyfrol o straeon drwg, direidus a di-chwaeth.
Cymysgedd dda o straeon i oedolion gan ddeg o wahanol awduron sydd gennym o fewn y cloriau, ambell un yn fwy erotig na’r gweddill. Cawn hanes dynes sydd â ffetish am falŵns yn ‘Syrpréis!’ gan Bethan Gwanas; dilynwn fywyd dyn sengl wrth iddo hunanddinistrio yn ‘Tragwyddoldeb’ gan Sonia Edwards, ac yn ‘Sebastien’ gan Rhys Iorwerth cawn ddiolch i Dduw nad yw ein landlord ni fel prif gymeriad y stori hon!
Mae ‘Pethau Odiach’ gan Siân Melangell yn dilyn taith cwpl ar eu gwyliau, ac mae Jon Gower, yn ‘Pornograffi’, yn cynnig cipolwg ar yr arlwy y byddai o’n ei roi ar S4C petai o’n gomisiynydd rhaglenni i oedolion. Mae ‘Does Dim Amdani’ gan Aled Islwyn yn adrodd stori merch ryfedd sy’n ymddangos ar y traeth un dydd, ‘Y Guru’ gan Heiddwen Tomos yn mynd â ni i ddosbarth ffitrwydd mewn neuadd bentref, ac ‘Allan i’r Glaw’ gan Izzy Rabey yn ein cludo i glwb nos i ferched yn unig. Mae ‘Llygaid yn y Nos’ gan Ifana Savill yn llawn brad a busnes, ac mae ‘Blodau Sidan’ gan Tony Bianchi, sy’n sôn am bryfed, pasteiod a bonedi, yn stori ych-a-fi o dda.
Mae pob stori’n diddanu, ac mae’r themâu’n eang ac yn troi oddi wrth nifer o ystrydebau ffuglen erotig. Does yr un o’r awduron wedi gwneud i mi crinjio gyda’u disgrifiadau, sy’n llwyddiant mawr ynddo’i hun mewn straeon rhamant, ond dim ond ambell stori sy’n wirioneddol goch. Mae’r clawr a’r broliant yn addo erotica go iawn, ac efallai fod hynny wedi codi fy nisgwyliadau yn rhy uchel. Roeddwn i wedi gobeithio cael rhywbeth fyddai’n gwthio’r ffiniau, cyfrol y byddwn wedi gorfod ei chuddio o dan y gwely rhag i rywun fy ngweld yn ei darllen, ac er i mi fwynhau’r straeon, mae’r gyfrol wedi fy ngadael yn gofyn – ble mae’r filth Cymraeg go iawn?